Yn yr RNIB, rydyn ni’n credu ym mhŵer technoleg i helpu pobl sydd â cholled golwg i fod yn annibynnol, cael gafael ar wybodaeth, manteisio ar gyfleoedd a bod yn greadigol.
Rydyn ni’n cydnabod y newid yn y tirlun wrth i'r byd rydyn ni’n byw ynddo gael ei ddigideiddio fwyfwy, ac rydyn ni wedi cyffroi am ei botensial. Mae gennym ni lawer o wybodaeth i'ch helpu chi os ydych chi’n dechrau ar eich siwrnai neu eisiau cymorth manylach.
Gall ein tîm Technoleg am Oes roi gwybodaeth a chefnogaeth i chi gyda’r canlynol:
Gwneud y defnydd gorau o'ch ffôn clyfar neu dabled
Defnyddio meddalwedd hygyrchedd fel darllenwyr Sgrin neu chwyddwydrau
Deall manylion cynhyrchion
Darganfod cynhyrchion newydd a allai fod yn ddefnyddiol i chi
Canfod a datrys problemau
Mae ein gwirfoddolwyr Cymorth Technoleg yn darparu cymorth un i un gartref i bobl sydd â cholled golwg. Gallant eich helpu i wneud y canlynol:
Sefydlu eich ffôn clyfar, tabled neu ddyfeisiau eraill
Deall nodweddion eich cyfrifiadur, tabled, ffôn clyfar neu eDdarllenydd
Sefydlu rhaglenni i'ch helpu i barhau i wneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau ac i gadw mewn cysylltiad
Manteisio i’r eithaf ar y rhyngrwyd ac adnoddau ar-lein amrywiol
Rydyn ni’n cefnogi partneriaid lleol a chenedlaethol, gweithwyr proffesiynol a Chymuned RNIB Connect i ddarparu gwasanaethau technoleg mewn llawer o leoliadau.
Gallwn eich rhoi chi mewn cysylltiad â chymuned frwdfrydig iawn o bobl sy'n ymgysylltu'n ddigidol a'ch helpu i ddod o hyd i gefnogaeth a hyfforddiant lleol sy'n ymwneud â thechnoleg.
Ewch i'n hwb adnoddau technoleg a chael gafael ar y ffeithiau, y cyngor a'r canllawiau technoleg diweddaraf. Sylwer bod yr adnoddau hyn yn Saesneg a gellir eu darparu yn y Gymraeg ar gais.
Os ydych chi’n byw, yn gweithio ac yn cyfathrebu ag eraill yn y Gymraeg, dylech wybod bod technoleg ar gael sy'n golygu y gallwch fyw eich bywyd digidol yn y Gymraeg hefyd. Rydyn ni wedi creu ffeithlen ddefnyddiol ynghylch hyn.
Lawrlwytho ein Ffeithlen Technoleg Gymraeg
Rydyn ni’n cynnig grantiau i bobl sydd wedi cofrestru’n ddall neu â golwg rhannol ar gyfer technoleg ddefnyddiol a all eu helpu i fyw'n annibynnol.
I wneud cais llenwch ein ffurflen gais. Darllenwch y nodiadau ar ddechrau ein ffurflen yn ofalus. Mae'r nodiadau'n rhoi mwy o fanylion am ein cynllun grantiau, y meini prawf cymhwyso a pha wybodaeth y mae angen i chi ei hanfon gyda'ch ffurflen er mwyn i ni allu gwneud penderfyniad am eich cais.
Lawrlwytho ein ffurflen gais am grant
Mae tîm Technoleg am Oes yr RNIB yn gweithio ochr yn ochr ag eraill i sicrhau bod cymorth technoleg ar gael i bobl ddall ac â golwg rhannol ledled y DU.
Rydyn ni wedi creu canllaw defnyddiol i'ch helpu chi i gynllunio a chyflwyno sesiwn arddangos technoleg llwyddiannus. Mae llawer o gyngor ac awgrymiadau yn y pecyn adnoddau hwn - o ddechrau arni i neilltuo swyddogaethau, dewis caledwedd a chyfathrebu â chwsmeriaid drwodd i wneud gwaith dilynol a gwerthuso.
Lawrlwytho’r canllaw i Drefnu Digwyddiad Technoleg Hygyrch
Mae sesiwn Cyflwyniad i Dechnoleg yn ffordd wych o gyflwyno eich cleientiaid i'r gwahanol fathau o ddyfeisiau sydd ar gael a chodi ymwybyddiaeth o sut gall technoleg eu helpu i gael gafael ar yr wybodaeth y mae arnynt ei heisiau a'i hangen.
Gyda'n canllaw hawdd ei ddilyn, gallwch chi, a'ch cleientiaid, ymlacio a chael hwyl mewn sesiwn sy'n rhoi sylw i’r holl hanfodion. Bydd y canllaw hwn yn rhoi amlinelliad i chi o sut i gynnal sesiwn a pha bynciau i'w cynnwys. Mae'n manylu ar rai o'r adnoddau y bydd eu hangen arnoch i helpu pobl ddall ac â golwg rhannol i ddechrau defnyddio technoleg hanfodol.
Lawrlwytho’r canllaw i Gynnal sesiwn hyfforddi Cyflwyniad i Dechnoleg
Gallwch gysylltu â thîm Technoleg am Oes yr RNIB ar 0303 123 9999 neu [email protected] o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.