‘Gwneud Synnwyr’ i gefnogi pobl yng Nghymru sy’n fyddar neu’n ddall

Post date: 
Monday, 7 November 2016
Category: 
Cymru

Caiff pobl yng Nghymru sy’n fyddar, sydd â nam ar y clyw, sy’n ddall neu sy’n rhannol ddall eu hannog i ddweud wrth feddygon a nyrsys am eu hanghenion cyfathrebu pan ânt i ysbyty neu at Feddyg Teulu.

Mae mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau yng Nghymru, ac mae Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac elusennau wedi uno’u lluoedd i weithio ar yr ymgyrch ‘Gwneud Synnwyr’ i godi ymwybyddiaeth o hawliau cleifion pan gânt eu trin mewn ysbytai, meddygfeydd Meddygon Teulu a gwasanaethau gofal iechyd eraill.

Mae elusennau’n croesawu’r  gefnogaeth gan GIG Cymru, ar ôl i’r Gweinidog Iechyd ymweld â sesiwn i staff o ymwybyddiaeth o nam ar y synhwyrau a gwers gan Iaith Arwyddion Prydain yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant heddiw.

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, “Gwyddom fod gan fwy na 600,000 o bobl nam ar y clyw neu’r golwg yng Nghymru.  Bydd yr ymgyrch hon yn helpu pobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG a staff gofal iechyd i gyfathrebu’n well ac i wella diogelwch cleifion.

“Yn aml, fe all ond ychydig o fân addasiadau wneud yr holl wahaniaeth, ac mae’r ymgyrch hon wedi’i datblygu gan bobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau ac sy’n teimlo budd gofal o ansawdd uchel sy’n diwallu’u hanghenion cyfathrebu.”

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau, anogir pobl sy’n fyddar, sydd â nam ar y clyw, sy’n ddall, sy’n rhannol ddall neu sy’n ddall a byddar i gymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Gwneud Synnwyr’ a:

·         Dweud wrth feddygon, nyrsys, parafeddygon a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd ym mha ffordd y mae’n amgenach ganddynt gyfathrebu.

·         Gofyn am gael gwybodaeth yn y fformat sydd amgenach ganddynt, yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu braille.

·         Rhannu’u pryderon os nad ydynt yn derbyn hyn.

Mae arweinwyr y GIG hefyd yn annog y rheiny sy’n gweithio yn y GIG i: 

·         Canfod oddi wrth hyfforddiant ar-lein y ffyrdd gorau i gyfathrebu â phobl sy’n fyddar, yn ddall neu ag arnynt anghenion cyfathrebu eraill.

·         Gofyn i gleifion sut yr hoffent gyfathrebu.

·         Cynnig rhoi’r wybodaeth yn y fformat sydd amgenach ganddynt, yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu braille.

Lansiwyd Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau yn 2013, ac mae’n dweud y dylai meddygfeydd ac ysbytai gymryd camau i sicrhau y gallant gyfathrebu’n dda â phobl sy’n fyddar, sydd â nam ar y clyw, sy’n ddall, sy’n rhannol ddall neu sy’n ddall a byddar.

Mae Angela Davies o Landudno yn hollol fyddar ac mae’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.  Dyma a ddywedodd: “Mae gan fy nghyfeillion byddar a minnau hanesion erchyll am ymweld â meddygon ac ysbytai.  Gwnaeth un ohonynt hyd oed ei gael ei hun yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys am gymryd moddion yn anghywir, oherwydd na allai’r meddyg gyfathrebu’n iawn â hi.

“Un o’r lleoedd sy’n gallu bod waethaf yw’r adrannau awdioleg, lle y credech y byddai’r staff yn ymwybodol o fyddardod.  Arferwn â byw yn Lloegr ac roedd fy adran awdioleg leol yn warthus.  Pan gyrhaeddech am eich apwyntiad, fe gaech docyn a byddai’r awdiolegydd yn dod i’r ystafell aros a datgan y rhif yn uchel.  Os nad ateboch, byddai’n troi at y person nesaf.  Da i ddim os na allwch glywed dim byd!

“Yma yng Ngogledd Cymru, mae’n llawer gwell.  Mae’r holl adran awdioleg wedi cael hyfforddiant i fod yn ymwybodol o fyddardod ac fe all gyfathrebu’n dda.  Rwyf hefyd yn ffodus fod ein Meddyg Teulu bob amser yn fy wynebu fel fy mod yn gallu darllen ei wefusau a gwneud yn sicr fy mod yn deall popeth.  Mae’n fater trist nad yw pawb mor ffodus.”

Dywedodd Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru, “Rydym wrth ein bodd bod y GIG yng Nghymru yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pobl sydd â nam ar y synhwyrau’n cael yr un driniaeth â phobl a all glywed neu weld yn dda.

“Ac eto, mae yna waith sydd eto i’w wneud.  Daliwn i glywed gan gleifion sy’n gadael ysbyty, sy’n ansicr faint o foddion y maent i fod i’w gymryd ac yn ansicr ynglŷn â’r cyngor a roddwyd iddynt.

“Mae methu â chyfathrebu â phobl mewn ffordd y gallant ei deall nid yn unig yn rhoi cleifion mewn perygl, ond mae hefyd yn gwastraffu amser ac arian y gwasanaeth iechyd.”

Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru, "Mae hi’n dair blynedd ers lansio’r safonau, ac mae pobl ddall a rhannol ddall yn dal i fethu â chael at eu gofal iechyd yn gyfan gwbl breifat ac yn aml yn ddiogel.  Rwyf yn falch ei bod hi’n ymddangos bod yna fwy o ymwybyddiaeth o’r safonau o fewn arferion staff y GIG ond mae yna eto serch hynny lawer iawn i’w wneud.

“Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) eisoes wedi gosod y fframwaith cyfreithiol i’r holl wybodaeth i’w darparu yn y fformat sy’n ofynnol o fewn sefyllfa gyhoeddus, ac mae’n rhaid inni ddal i frwydro i sicrhau y gallwch ddal i gael at bopeth y mae arnoch ei angen os oes yna nam ar eich golwg o fewn y gwasanaeth iechyd ac eich bod yn gallu cymryd eich meddyginiaeth bresgripsiwn yn ddiogel.

Meddai Marilyn Campbell: "Yn ddiweddar, fe fues i mewn Fferyllfa ysbyty. Roedd nyrs gyda fi ac fe wnaeth hi roi fy mhresgripsiwn i'r staff ac esbonio fy mod i'n ddall. Wrth i fi aros am y presgripsiwn, fe glywais i'r Fferyllydd yn gwneud yn siŵr bod meddyginiaethau a manylion personol pobl eraill yn gywir.

"Pan ddaeth fy nhro i, wnaethon nhw ddim byd ond rhoi'r bag i fi a fy ngadael i sefyll wrth y cownter. Yn y pen draw fe lwyddais i i ddenu sylw aelod arall o staff wnaeth esbonio'r gwahanol fathau o feddyginiaeth roeddwn i wedi'i derbyn a sut y dylwn i eu cymryd nhw. Er hynny, ro'n i yn fy nagrau yn gadael yr ysbyty. Dw i wir yn gobeithio y bydd modd gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y safonau cyfathrebu yma."

I ganfod mwy o wybodaeth am yr ymgyrch Gwneud Synnwyr, ewch i www.equalityhumanrights.wales.nhs.uk