Shop RNIB Cyfrannwch nawr

RNIB Cymru yn lansio adroddiad effaith blynyddol am y tro cyntaf

A person sitting in an armchair reading a book using a magnifying glass.

Person yn eistedd mewn cadair freichiau yn darllen llyfr gyda chwyddwydr.

Dyma Gyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman, yn amlygu ein gwaith gwych yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyffrous iawn i RNIB Cymru.

Ein cenhadaeth yw i sicrhau fod Cymru fod yn wlad lle gall pobl ddall ac â golwg rhannol gymryd rhan yn gyfartal. Wrth i’n tîm dyfu a datblygu, rwyf mor falch o’n gwaith a’n llwyddiannau.

Rydym wedi siarad â miloedd o bobl ddall ac â golwg rhannol ar draws Cymru, gan ein helpu i ddeall yn llawn yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu a beth y gellir ei wneud i wella pethau.

Rydym wedi comisiynu ymchwil helaeth ac wedi defnyddio’r mewnwelediad yma i greu strategaeth i gyflawni newid cymdeithasol cynaliadwy, cadarnhaol.

Fel rhan o’n cenhadaeth i chwalu rhwystrau a chamsyniadau, rydym wedi ymweld â phobl ac wedi cynnal digwyddiadau ledled y wlad.

Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr anhygoel wedi grymuso pobl gyda cholled golwg i gael mynediad at dechnoleg sy’n newid bywydau, deunyddiau darllen, grwpiau cyfeillio, digwyddiadau teuluol a chyfleoedd chwaraeon. Fe wnaethom gefnogi’n uniongyrchol dros 7,700 o bobl o bob rhan o Gymru a gysylltodd â ni am ein gwasanaethau, ac fe wnaeth ein digwyddiad rygbi VI gyda Sefydliad Rygbi Caerdydd gyflwyno dros 80 o blant i’r gamp honno.

Rydym wedi gweithio’n galed i wneud Cymru yn lle mwy cynhwysol i fyw ynddi ar gyfer pawb, o ymgyrchu dros strydoedd mwy diogel a gwybodaeth iechyd hygyrch, i rannu canllawiau ar greu amgylcheddau byw a gweithio hygyrch.

Gallwch ddarganfod popeth am ein gwaith yn yr Adroddiad Effaith eleni, sydd ar gael ar-lein ac mewn print bras, braille a sain. Ni allwn aros i gyflawni hyd yn oed mwy dros y flwyddyn nesaf.