Mae ‘Bod Yno’ yn fwy na dim ond bod yno!

Post date: 
Wednesday, 18 January 2017
Category: 
Cymru

Mae ‘Bod Yno’ yn fwy na dim ond bod yno!

D’oes dim amser da i dderbyn newyddion drwg, ond faint yn waeth yw newyddion o’r fath pan nad oes unrhyw un ar gael neu â’r amser i wrando a chynnig cefnogaeth. Hyd y blynyddoedd diwetha’, dyma’r sefyllfa oedd yn wynebu miloedd o bobl ar draws Cymru.

Mae hi mor bwysig i gael gobaith a chefnogaeth ar adeg o anobaith ac ofn os oes unrhyw un am allu dygymod â newyddion syfrdanol, a dyma yw gwaith y Swyddogion Cyswllt Clinigau Llygaid (SCCLl) pan fod claf yn derbyn newyddion gwael am gyflwr ei olwg/ei golwg.

Diolch i RNIB Cymru, a nawdd gan raglen Advantage y Loteri Fawr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, mae bellach deuddeg SCCLl ar draws Cymru.

Mae SCCLl yn darparu cefnogaeth emosiynol i gleifion clinig llygaid; gwybodaeth hygyrch am eu cyflwr a’u triniaeth; atgyfeiriadau at wasanaethau cymunedol, iechyd a gofal cymdeithasol; gwybodaeth am y broses tystysgrifo a chofrestru; atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol fel hawliau lles, pontio a chyflogaeth; cefnogaeth i deuluoedd, gofalwyr a chyfeillion;  hyfforddiant ymwybyddiaeth a threfnu grwpiau cefnogol.

Ar adeg lansio adroddiad RNIB Cymru ‘Bod Yno – Meithrin dealltwriaeth o rôl hanfodol Swyddogion Cyswllt Clinigau Llygaid yng Nghymru’, dywedodd Ceri Jackson, cyfarwyddwr RNIB Cymru:

“Ym marn RNIB Cymru mae gwir werth y gwasanaeth SCCLl yn amlwg, sef ei werth, ar sail siarad un i un, i bobl sydd yn derbyn y fath o newyddion fyddai dim un ohonom yn dymuno ei glywed. Newyddion erchyll am golled golwg.

“Ond mae’r SCCLl ar draws Cymru wedi derbyn yr hyfforddiant sydd yn eu galluogi i ddarparu gobaith ac anogaeth werthfawr, cefnogaeth i gleifion sydd yn aml yn ei chael hi’n anodd cerdded y daith frawychus a chymhleth drwy golled golwg.

“Mae adroddiad Bod Yno yn dangos tystiolaeth am bwysigrwydd y gwasanaeth SCCLl i bobl sydd â cholled golwg, a’r gwahaniaeth positif mae’n gwneud i’w bywydau. Y gobaith yw y bydd hyn yn dystiolaeth fydd yn ysgogiad i ehangu’r wasanaeth ac ariannu rhagor o swyddi SCCLl yn y maes iechyd  ”

Cydnabyddir rôl y SCCLl yn eang, ac mae’n gynwysedig o fewn llwybrau gofal llygaid Llywodraeth Cymru ar gyfer Dirywiad Macwlaidd sy'n Gysylltiedig Ag Oedran  (AMD) a Glawcoma.

Dywedodd Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru:

“Er mwyn darparu gofal gwirioneddol dda i gleifion, mae angen i bawb gydweithio i ddarparu gwasanaethau di-dor ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy ddefnyddio straeon cleifion, mae’r adroddiad hwn yn dangos sut y mae SCCLl yn gwneud hynny bob dydd yn rhai o’r clinigau prysuraf mewn ysbytai ledled Cymru. Mae SCCLl yn gweithredu’n unol ag egwyddorion doethineb, partneriaeth, integreiddio a chydweithredu.

“Anogaf bawb i fanteisio ar eu gwasanaeth SCCLl lleol ac i ystyried, ar bob cam o’r daith, p’un a fyddai cyfraniad y gwasanaeth hwnnw yn gwella’r gofal y gallwch ei gynnig i’ch cleifion neu’ch cleientiaid.”

Mae’r straeon o fewn adroddiad Bod Yno oll yn astudiaethau achos go iawn o bobl a gafodd gymorth gan y gwasanaeth Swyddogion Cyswllt Clinigau Llygaid (SCCLl) yng Nghymru.

Fel yr eglura’r Offthalmolegydd Ymgynghorol o Ysbyty Singleton, Abertawe David Laws: “Mae SCCLl yn cyflawni rôl y bu angen amdani ers blynyddoedd. Roedd cleifion yn cwyno os oedd eu golwg yn gwaethygu, nad oedd llawer o gydgysylltiad rhwng y clinig a gwasanaethau cymunedol; mae SCCLl yn hwyluso’r broses hon”.

Mae’r Uwch Swyddog Synhwyraidd Tracy Martin-Smith o Sir Benfro yn egluro: “Mae SCCLl yn gweithredu fel y cyswllt rhwng y cleifion yn y clinig llygaid, awdurdodau lleol a’r trydydd sector”.

Astudiaethau Achos

1)Mae’r Pensaer Stephen Waldron o Ystradfellte yn llawn canmoliaeth am ei SCCLl ym Mhowys, Keira Brooks:

“Mae gen i gyflwr llygaid genetig, ond yn sydyn iawn dros benwythnos ddiwedd Hydref y llynedd gwaethygodd fy ngolwg yn ddifrifol gan olygu fod rhaid imi roi’r gorau i yrru dros nos.

“Rwy’n berchen ar, ac yn rhedeg fy musnes pensaernïol fy hun, a’m blaenoriaeth oedd parhau i redeg y busnes er mwyn y cyd-weithwyr a chleientiaid oedd yn dibynnu arnaf.

“Doeddwn i ddim yn gallu darllen, sgwennu na chyhoeddi fy nghynlluniau fy hun i gleientiaid. Mae angen imi hefyd ymweld â chleientiaid, felly roeddwn i’n dibynnu ar eraill er mwyn imi gyrraedd apwyntiadau ac roedd hynny’n mynd yn fwy ac yn fwy anghynaladwy.

“Mae Keira wedi bod yn gymorth aruthrol imi. Mae’n ffonio yn aml ac yn gefnogol tu hwnt. Mae hi wedi fy atgyfeirio i wasanaethau ac adnoddau’r RNIB fel cefnogaeth i’m helpu hefo mynediad i waith; y Gwasanaeth Hawliau, Cyngor a Gwybodaeth (RAISE) parthed y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP); ac Ar-lein Heddiw i’m helpu gyda thechnoleg.

2)Ar y llaw arall, mae’r actor enwog sy’n adnabyddus fel un o sêr Pobol y Cwm, Gareth Lewis (Meic Pierce ar Pobol y Cwm), sy’n wreiddiol o’r Felinheli ond yn byw yng Nghaerdydd, yn dweud y byddai wedi gwerthfawrogi cefnogaeth gan SCCLl pe bai wedi ei atgyfeirio:

“Mae fy ngolwg wedi bod yn dirywio ers fy ugeiniau cynnar a dyna’n wir oedd y prif reswm imi ymddeol o Pobol y Cwm ychydig o flynyddoedd yn ôl. Roedd gen i drafferth darllen sgriptiau, symud i’r man iawn ar y set, ac yn wir symud o olygfa i olygfa yn ddiogel.

“D’oedd y gwasanaeth SCCLL ddim yn bodoli pan ges i wybod yn y 70au fod fy ngolwg am waethygu dros y blynyddoedd, ond hyd yn oed mewn apwyntment ag ymgynghorydd yn ddiweddar, pan ddywedwyd wrthyf fod fy ngolwg wedi dirywio’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, cyfeiriwyd dim at y gwasanaeth SCCLl.

“Wrth ddarllen yr astudiaethau achos ‘ma, dwi’n ymwybodol fy mod i wedi bod ar fy ngholled rywfaint heb gefnogaeth SCCLl dros y blynyddoedd, ond rwy’n falch eu bod nhw ar gael a bod sawl un ohonynt, fel Ruth, yn medru darparu’r gwasanaeth yn ddwyieithog

“Mae hi wedi bod yn dipyn o beth imi fod mor agored am fy hanes yn colli golwg, ond o’n i’n meddwl fod hi’n amser i rannu’r stori rhag ofn fod hynny o gymorth i eraill yn yr un sefyllfa, a dyna pam mai rhan o’r cytundeb hefo cyhoeddwyr fy hunangofiant, Gwasg Gomer, oedd sicrhau ei fod ar gael fel ‘llyfr llafar’.”