“Mae 2016 fel pe bai wedi gwibio heibio, ac unwaith eto mae hi wedi bod yn flwyddyn llawn llwyddiant a her. Rwyf wedi mwynhau cyfarfod cwsmeriaid, ymweld â gwasanaethau a gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr newydd er mwyn ehangu a gwella ein gwasanaethau.
“Rwy’n ymwybodol bod peryg wrth ddiolch i bobl gan nad yw’r geiriau yn ddigonol, neu fod peryg anghofio rhywun...a fyddwn i ddim am i hynny ddigwydd...felly derbyniwch fy niolch cynhwysfawr a diffuant ichi oll am eich cefnogaeth, anogaeth a phartneriaeth.
“Oes, mae sawl uchafbwynt ar gyfer 2016, ac efallai mai ar y brig yw’r datblygiad sylweddol gwnaethpwyd gennym wrth geisio gwella’r oedi sy’n digwydd i gleifion llygaid yn yr ysbytai. Mae gryn dipyn i’w wneud eto i sicrhau apwyntiadau amserol i bobl sydd mewn peryg o golled golwg, ond bellach mae dealltwriaeth well o’r broblem ac mae gwaith sylweddol yn digwydd yn lleol ac yn genedlaethol i geisio gwella’r sefyllfa. Mae hyn yn cynnwys rhagor o gleifion yn derbyn triniaeth gan optometryddion lleol, cofnod claf ar ffurf electronig ar y gweill, cytundeb ar dargedau newydd addas wedi’i chanoli ar gleifion ac arolwg claf. Mae cynnydd yn cael ei fonitro gan y Gweinidog Iechyd a Phrif Weithredwyr y Byrddau Iechyd.
“Mae ein tîm Pontio a Chyflogaeth wedi cynorthwyo 55 o bobl sy’n ddall neu â golwg rhannol i gadw eu swyddi, a 27 i gael swyddi newydd rhwng Ebrill a Thachwedd eleni.
“Mae un o’n partneriaid, Cynyrchiadau UCAN wedi dangos tair ffilm fer ynglŷn â bod yn annibynnol. Cynhyrchwyd y ffilmiau yn eu cyfanrwydd gan bobl ifanc â cholled golwg (