Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Dylai pob gwybodaeth gofal iechyd fod yn hygyrch. Rydyn ni eisiau eich adborth chi: Blog Ansley

Ydych chi wedi gorfod gofyn i ffrind, cymydog, gofalwr neu blentyn i chi ddarllen eich canlyniadau profion o’r ysbyty neu lythyr apwyntiad ar eich rhan?

Neu ofyn am i fanylion apwyntiad iechyd gael eu hanfon atoch chi yn y fformat rydych chi ei angen, ond wedyn ei dderbyn mewn fformat nad oes posib i chi ei ddarllen?

Rydyn ni’n clywed yn aml gan bobl ddall ac â golwg rhannol sy’n dweud wrthym ni eu bod yn ei chael yn anodd neu’n amhosib darllen gwybodaeth iechyd hanfodol drostynt eu hunain. Rydw i hyd yn oed wedi siarad gyda rhywun sydd wedi gorfod gofyn i ddieithryn lenwi ffurflen gwybodaeth feddygol am nad oedd y gwasanaeth iechyd yn fodlon ei rhoi iddi yn y fformat oedd hi ei angen.

Nid rhywbeth ‘neis i’w chael’ neu fraint yw gwybodaeth hygyrch – mae’n hawl. Mae’n ofynnol i wasanaethau iechyd ddarparu’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i chi yn y fformat sydd orau i chi.

Rydyn ni eisiau clywed am sut mae eich gwasanaethau iechyd lleol yn cyfathrebu gyda chi, ac a ydych chi’n derbyn gwybodaeth bwysig, fel manylion am apwyntiadau sydd i ddod, meddyginiaethau neu ganlyniadau profion mewn ffordd sy’n hygyrch i chi.

Hefyd mae gennym ni ddiddordeb mewn clywed am eich profiadau yn ystod y pandemig yma, gan gynnwys a oedd posib i chi gael gwybodaeth iechyd cyhoeddus mewn fformat oedd yn bodloni eich anghenion.

Bydd eich adborth yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o’ch profiadau, da a drwg. Bydd hyn yn ein helpu ni i ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu ledled Cymru.

Felly fe hoffwn i ofyn i chi lenwi ein harolwg, a fydd yn helpu fel sail i faniffesto RNIB Cymru ar gyfer etholiadau Cymru y flwyddyn nesaf.

Bydd yr holl ymatebion i’r arolwg yn gwbl ddienw.

Drwy gymryd rhan, fe allwch chi ein helpu ni i greu newid gwirioneddol a pharhaus ledled Cymru.

Rydyn ni mor ddiolchgar am eich cefnogaeth gyson. Mae hyn wir yn cryfhau ein hymgyrchoedd ac ni fyddai ein gwaith yn bosib heb eich help chi.

Mae’r arolwg ar gael yn ac mae yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Os nad yw llenwi’r arolwg ar-lein yn addas i chi, cofiwch gysylltu â [email protected] ac fe allwn ni eich cefnogi chi gyda nifer o wahanol fformatau.