Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Ymgyrchu llwyddiannus dros wybodaeth hygyrch am y coronafeirws yng Nghymru

Wrth i Lywodraeth Cymru, swyddogion iechyd a busnesau fynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws, mae’r argyfwng wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a hygyrch i bawb.

Nawr yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod pawb yn gwybod sut i gadw eu hunain a’u cymuned yn ddiogel.

Ond mae her ddigynsail pandemig byd-eang wedi datgelu nad yw darparu gwybodaeth hygyrch yn arfer safonol eto i lawer o sefydliadau cyhoeddus.

Ers dechrau’r argyfwng, rydyn ni yn RNIB Cymru wedi sylwi bod negeseuon allweddol yn cael eu cyfathrebu o ffynonellau swyddogol mewn ffyrdd sy’n eithrio pobl â cholled golwg. Er enghraifft, defnyddio lluniau i gyfleu gwybodaeth sy’n anhygyrch i ddarllenwyr sgrin.

Rydyn ni wedi cysylltu â thimau Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’r GIG sy’n gyfrifol am anfon yr wybodaeth hon allan ac wedi anfon canllawiau teilwredig atynt am sut gallent addasu eu cyfathrebu ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol.

Roedd lefel yr ymateb yn wych. Gweithredodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar unwaith a dechrau uwchlwytho ei ddiweddariadau iechyd cyhoeddus am y coronafeirws gydag opsiynau ar gyfer disgrifiad sain a fformatau hygyrch eraill, gan gynnwys darllen hawdd ac iaith arwydion Prydain.

Ychwanegodd NHS Direct Wales adnoddau hygyrchedd at ei wefan, gan roi cyfle i ymwelwyr newid gosodiadau’r dudalen i fod yn addas i’w hanghenion. Mae hyn yn cynnwys chwarae fersiwn sain, newid maint y ffont a lliw y dudalen, chwyddo lluniau a chyfieithu gwybodaeth i ieithoedd niferus.

Gwnaeth Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yr un peth, a chyhoeddi cyfres o adnoddau sain am Gyfarpar Diogelu Personol a’r ap newydd ar gyfer tracio symptomau Covid-19.

Codi proffil gwybodaeth hygyrch

Rydyn ni wedi bod yn gweithio hefyd i gael gwybodaeth hygyrch ar yr agenda wleidyddol. Mae Aelodau’r Cynulliad (ACau) wedi cael eu briffio ac mae cwestiynau ysgrifenedig wedi cael eu cyflwyno, yn gofyn i Lywodraeth Cymru esbonio’r camau nesaf mae am eu cymryd i sicrhau bod negeseuon hanfodol yn cyrraedd pobl ddall ac â golwg rhannol.

Hefyd rydyn ni wedi rhoi cynghorion i’r holl ACau ar sut i sicrhau bod unrhyw gyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol yn hygyrch i’w hetholwyr dall ac â golwg rhannol.

Anfonwyd Llythyr at y Golygydd gan Gyfarwyddwr RNIB Cymru Ansley Workman at y wasg leol a chenedlaethol, yn tynnu sylw pellach at ein pryderon ac yn galw ar sefydliadau ledled Cymru i wneud yn well.

Pan ymatebodd y sefydliadau i’n galwadau’n gyflym, aethom ati i ddathlu eu camau gweithredu ar gyfryngau cymdeithasol. Denodd hyn ymateb positif gan ein cynulleidfaoedd, gan annog sefydliadau eraill i’w hefelychu, a chreu RNIB Cymru fel eiriolwr dros newid positif mewn cyfnod cythryblus.

Gwaith i’w wneud o hyd

Yn anffodus, er gwaetha’r cynnydd sylweddol, rydyn ni’n parhau i weld achosion lle nad yw anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol yn cael eu hystyried mewn cyfathrebu swyddogol.

Rai wythnosau wedi dechrau’r cyfyngiadau symud, mae pobl yn dal i ddweud wrthym ni nad ydynt yn gallu cael yr wybodaeth sylfaenol y mae arnynt ei hangen i gadw’u hunain yn ddiogel. Does dim canllawiau swyddogol wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer pobl â cholled golwg ar sut i ymarfer cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel a sut i gael eu tywys yn ddiogel, gan achosi dryswch a phryder i lawer.

Mae 91,000 o bobl yng Nghymru sy’n cael eu hystyried fel y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol o’r coronafeirws wedi derbyn ‘llythyr gwarchod’. Mae’r llythyr yn eu cynghori i aros gartref am 12 wythnos ac mae’n cynnwys gwybodaeth a chyngor pellach amrywiol, gan gynnwys sut i gael bwyd a meddyginiaethau os ydynt yn cael anhawster. Er eu bod yn cynnwys gwybodaeth a allai achub bywydau, nid yw’r llythyrau hyn wedi cael eu hanfon mewn fformatau hygyrch i bobl sydd â cholled golwg.

Rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynychu apwyntiadau gofal llygaid brys ac argyfwng a all achub eu golwg, er eu bod yn parhau i gael eu cynnal. Gall hyn fod am nad yw’r wybodaeth yn cyrraedd pobl ddall ac â golwg rhannol yn y ffordd gywir.

Cofnodwyd cyfweliad gennym gyda’r Offthalmolegydd Ymgynghorol, Gwyn Williams, a roddodd grynodeb diweddar o wasanaethau gofal llygaid yng Nghymru a’r mesurau diogelwch sydd yn eu lle i warchod cleifion yn ystod y cyfnod yma. Mae’n hanfodol bod y cyfathrebu yma’n cyrraedd cleifion gofal llygaid yn y fformat mwyaf priodol iddynt hwy, rhag i unrhyw un fod mewn perygl o golli eu golwg oherwydd cyfathrebu gwael.

Mae llawer o waith i’w wneud eto.

Yng Nghymru, mae RNIB Cymru yn parhau i wthio am eglurder gan y llywodraeth am gyfarwyddyd penodol pellach am golled golwg a gweithredu ynghylch hygyrchedd. Ar lefel y DU, mae’r RNIB, ynghyd â sawl elusen arall, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn iddo benodi arweinydd cenedlaethol ar gyfer hyn.

Rydyn ni’n monitro’r holl sianelau cyfathrebu swyddogol yn fanwl ac yn tynnu sylw at ddiffyg hygyrchedd pan ddown ar ei draws.

Cysylltwch â ni gydag unrhyw esiamplau o gyfathrebu anhygyrch y dewch ar ei draws – a’n helpu i sicrhau bod pobl ddall ac â golwg rhannol yn gallu cael gwybodaeth iechyd cyhoeddus mewn fformat sy’n gweithio iddynt hwy.