Dylai pobl gael profion llygaid yn rheolaidd er mwyn gofalu am eu llygaid - dyna'r neges yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid, sy'n cael ei chynnal rhwng 18-24 Medi 2017.
Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid bellach yn ei hwythfed blwyddyn, ac mae’n dod â sefydliadau a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghyd o bob rhan o Gymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r angen am brofion llygaid rheolaidd, a’r modd y gall arferion ein ffordd o fyw effeithio ar ein golwg.
Cael profion llygaid yn aml yw'r ffordd orau o gynnal iechyd da ar gyfer eich llygaid, gan nad oes gan rai cyflyrau llygaid difrifol ddim symptomau gweledol cynnar i'ch rhybuddio chi. Dylai pawb fynd i gael profion llygaid gydag optometrydd fel rhan o'u gofal iechyd.
Yng Nghymru mae 106,980 o bobl yn byw gyda phroblemau colli golwg ac mae hyn yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd â’r presgripsiwn anghywir, pobl yn aros am lawdriniaeth cataractau a phobl sy’n rhannol ddall neu’n ddall.
Mae tua 250 o bobl ledled gwledydd Prydain, gan gynnwys 3 yng Nghymru, yn colli eu golwg bob dydd.
Yn ôl adroddiad newydd gan yr RNIB a chwmni optegwyr y stryd fawr, Specsavers, bydd un o bob pump yn byw gyda phroblemau colli golwg yn ystod eu bywydau er gwaetha’r ffaith bod modd osgoi dros hanner yr holl achosion[i].
Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: “Mae golwg yn werthfawr dros ben ac rydyn ni’n byw mewn byd sy’n fwyfwy gweledol. Dyma’r synnwyr rydyn ni’n ofni ei golli fwyaf, ac eto dydy llawer ohonon ni ddim yn sylweddoli sut i edrych ar ôl ein llygaid.
“Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am iechyd y llygaid a’r ffyrdd gorau i ofalu am eich llygaid.
"Bob dydd, mae tri pherson yng Nghymru yn dechrau colli'u golwg, ond mae'n bosib osgoi o leiaf 50 y cant o achosion o golli golwg os caiff y broblem ei chanfod a'i thrin yn gynnar. Y peth pwysicaf y gall pobl ei wneud i ofalu am eu llygaid yw mynd i gael profion llygaid rheolaidd.
"Mae ymchwil yn dangos bod mwy nag un ym mhob 10 ohonom heb gael prawf llygaid erioed. Mae llawer o bobl yn meddwl mai pwrpas prawf llygaid yw gweld a oes angen cywiro eu golwg gyda sbectolau neu lensys cyffwrdd. Ond mae rhesymau pwysig eraill dros brofi eich golwg.
"Gall cael prawf llygaid rheolaidd ganfod cyflyrau llygaid cyn i chi sylwi ar yr effaith maen nhw’n ei chael ar eich golwg, gan gynnwys cyflyrau iechyd fel clefyd y siwgr a phwysedd gwaed uchel.
"Mae profion llygaid gan y gwasanaeth iechyd am ddim i bobl dros 60 oed, i blant, i'r rheini sy'n derbyn budd-dal ar sail incwm, a'r rhai sydd mewn perygl o etifeddu afiechydon llygaid sy'n rhedeg yn y teulu.
"Dylai pawb fynd i gael profion llygaid gydag optometrydd o leiaf unwaith bob dwy flynedd fel rhan o'u gofal iechyd."
Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i edrych ar ôl eich llygaid:
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid neu sut i ofalu am eich llygaid, cysylltwch â [email protected]
Nodiadau
Mae digwyddiadau i nodi Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru. Mae Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid yn ymgyrch ledled gwledydd Prydain i godi ymwybyddiaeth o iechyd y llygaid a'r angen i gael prawf llygaid rheolaidd.
Yng Nghymru:
1. Cynhelir Cynhadledd Gofal Llygaid Cymru ddydd Mercher 20 Medi yn Ysgol Optometreg Prifysgol Caerdydd, a bydd yn cynnwys cyflwyniad byr am Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid.
2. Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd, yn ymweld ag Ysgol Creigiau ddydd Mercher 20 Medi i’n helpu ni i gyflwyno negeseuon iechyd y llygaid i blant yn y gwasanaeth.
3. Mae Optometry Wales yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i drefnu tri ymweliad ag optometryddion ar gyfer Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Cabinet ddydd Iau 21 Medi. Bydd yr ymweliadau yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd profion llygaid rheolaidd.
4. Mae Age Cymru yn mynd i gynnal stondin gwybodaeth am iechyd y llygaid yn eu siopau yn Nhrefynwy, Caerffili, Pontypridd, Glyn Ebwy a Phorthcawl. Bydd staff yn cyflwyno negeseuon am iechyd y llygaid i’r cwsmeriaid.
5. Mae Gofal a Thrwsio ac Ymdopi’n Well yn cynhyrchu cardiau post dwyieithog ar gyfer eu staff asiantaeth i ofyn cwestiynau syml sy’n ymwneud â iechyd y llygaid i’r cleientiaid maen nhw’n dod i gyswllt â nhw yn ystod yr wythnos honno, e.e. Pryd gawsoch chi brawf llygaid diwethaf?
6. Edrychwch am negeseuon iechyd y llygaid ar arwyddion ffordd digidol ar yr M4 a’r A470 yn ystod yr wythnos. Bydd rhain yn cynnwys negeseuon fel “Mynnwch brawf llygaid”, “Mae golwg gwael yn costio bywydau”.
7. Cyn yr wythnos ar 12 Medi, bydd caban llygaid yr RNIB ar Ffordd Churchill, Caerdydd. Mae hwn yn efelychydd colli golwg rhyngweithiol am ddim sy’n rhoi cyfle i bobl brofi sut byddai hi i golli golwg. Bydd y caban yn hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid a phwysigrwydd profion llygaid rheolaidd i ddiogelu’r golwg.
[i] The State of the Nation Eye Health 2017: A Year in Review, Specsavers/RNIB
ii Arolwg YouGov a gomisiynwyd gan Specsavers ac RNIB 23 Mehefin – 7 Gorffennaf 2017 o 6,430 o oedolion ledled gwledydd Prydain dros 18+ oed
iiiThe State of the Nation Eye Health 2016, Specsavers/RNIB