Gall straeon agor y drws i fyd newydd o ryfeddod gan alluogi’r darllenydd i ddianc i lefydd ymhell bell i ffwrdd i gwrdd â chymeriadau lliwgar a chyffrous, ond i bobl ddall a rhannol ddall, gall fod yn anodd iawn iddyn nhw gael gafael yn eu hoff lyfrau neu’r llyfrau maen nhw eu hangen ar gyfer gwaith neu addysg.
Ers 80 mlynedd a mwy, gyda chymorth clybiau a sefydliadau eraill, mae gwasanaeth Llyfrau Llafar yr RNIB wedi helpu i greu cyswllt â’r byd allanol i bobl ddall a rhannol ddall yng ngwledydd Prydain.
Ymhlith y cefnogwyr hyn mae Clwb Rotari Iâl Wrecsam sef y sefydliad cyntaf yng Nghymu yn 2017 i noddi Llyfr Llafar i blant yn y Gymraeg ar gyfer Llyfrgell Llyfrau Llafar yr RNIB.
Bydd ‘Y Biliwnydd Bach’ (Billionaire Boy) gan David Walliams, sydd wedi’i noddi gan y clwb, ar gael mewn fformat hygyrch i blant dall a rhannol ddall yng Nghymru yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
Mae Clwb Rotari Iâl Wrecsam wedi rhoi £1500 i noddi’r llyfr, ac maen nhw’n rhoi £1500 arall i noddi llyfr yn Saesneg hefyd.
Meddai Andrew Fergus, Llywydd Clwb Rotari Iâl Wrecsam:
"Mae Clwb Rotari Iâl Wrecsam yn dewis nifer fach o achosion da i’w cefnogi bob blwyddyn drwy weithgareddau codi arian a phrosiectau gwasanaeth.
“Yn ystod blwyddyn Rotari 2016/17 rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i gefnogi menter Llyfrau Llafar yr RNIB ac rydym yn falch iawn o fod wedi codi £3,000 er mwyn ariannu recordiad dau lyfr i blant; un yn Saesneg ac un yn Gymraeg fel sy’n briodol i’n clwb dwyieithog ni.”
Ychwanegodd Cadeirydd RNIB Cymru John Ramm:
"Mae RNIB Cymru yn hynod falch bod Clwb Rotari Iâl Wrecsam wedi ariannu dau lyfr llafar i blant. Bydd y llyfrau hyn nawr ar gael i blant dall a rhannol ddall yn Gymraeg ac yn Saesneg.
“Mae darllen yn un o sgiliau hanfodol bywyd, ac mae hefyd yn rhodd anhygoel er mwyn dianc i fyd newydd sbon a rhoi rhwydd hynt i’r dychymyg.
“Mae RNIB Cymru o’r farn na ddylai unrhyw blentyn sydd wedi colli’i olwg fethu allan ar y cyfle hwn ac rydym yn hynod ddiolchgar i Glwb Rotari Iâl Wrecsam am ein helpu ni i newid y stori.”
Mae Llyfrau Llafar RNIB yn cynnig dros 23,000 o deitlau am ddim i blant a phobl ddall a rhannol ddall.
Mae’n costio £1500 i noddi llyfr llafar i blant a £2500 i noddi llyfr llafar i oedolion. Am ragor o wybodaeth am noddi llyfr llafar, cysylltwch â Carol McKinlay [email protected] ffoniwch 02920 828 590 neu ewch i www.rnib.org.uk/sponsortalkingbooks