Bydd RNIB Cymru yn cynnal digwyddiad Siapio a Rhannu ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun ddydd Sadwrn 15fed Chwefror 2020.
Mae’r diwrnod o weithgareddau’n gyfle i blant ac oedolion ifanc sydd â cholleg golwg ddod at ei gilydd ar gyfer diwrnod o grefftau, gemau a hwyl. Bydd gweithgareddau priodol i oedran yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd, gan gynnwys sesiynau celf a chrefft dan arweiniad artistiaid, sgiliau bywyd a gweithdai i rieni.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 11.30am a 3.30pm ac mae ar agor i bobl ifanc ddall ac â golwg rhannol hyd at 25 oed.
Hefyd gall y rhai sy’n bresennol a’u teuluoedd gymryd rhan mewn trafodaethau ar amrywiaeth o bynciau perthnasol i fywyd bob dydd gartref, ym myd addysg, mewn cyfnodau pontio, fel rhan o fywyd cymdeithasol a hamdden, symudedd ac annibyniaeth. Hefyd mae’r digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol a chael gwybodaeth am wasanaethau ehangach RNIB a’i sefydliadau partner.
I gael gwybod mwy am ddigwyddiad Siapio a Rhannu Rhuthun, neu i archebu lle, ewch i: https://www.rnib.org.uk/information-everyday-living-family-friends-and-carers/activities-and-family-events
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Claire Milton ar 07870 643 461 neu ar e-bost [email protected].