Cynllun Iaith Cymraeg Grŵp yr RNIB
Mae Cynllun Iaith Gymraeg Grŵp yr RNIB yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth yn nwy iaith swyddogol Cymru.
I lawer o bobl yng Nghymru, mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf. Nid mater o'r hyn sy'n well gan bobl yn unig yw'r opsiwn i ddefnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydyn ni'n gwybod bod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo'n fwy cyfforddus yn mynegi eu hunain yn y Gymraeg, yn teimlo'n fwy hyderus yn cyfathrebu eu hanghenion yn y Gymraeg, a’u bod yn meddwl ac yn byw eu bywydau yn y Gymraeg.
Mae teimlo eich bod yn gallu mynegi'ch hun a theimlo'n gyfforddus a hyderus wrth gyfathrebu'n hollbwysig i fynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol ac mae hyn yn gwbl hanfodol wrth gael diagnosis.
Mae'r cynllun hwn yn amlinellu ein hymrwymiadau i'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg. Mae'n ymgorffori ymrwymiad yr RNIB i fod yn uchelgeisiol a chanolbwyntio ar y cwsmer ac, yn bwysicach na dim, i fod ar gael ar gyfer mwy o bobl ddall ac â golwg rhannol wrth i ni geisio treblu ein cyrhaeddiad yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Rydyn ni'n hyderus y byddwn, drwy'r cynllun hwn, yn gwella ein gwasanaethau, ein gwaith codi arian, ein hymgyrchu a'n gweithgareddau cyfathrebu.