Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Cynllun Iaith Cymraeg Grŵp yr RNIB

Mae Cynllun Iaith Gymraeg Grŵp yr RNIB yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth yn nwy iaith swyddogol Cymru.

Llun: Dynes mewn bwyty yn yfed o gwpan.

I lawer o bobl yng Nghymru, mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf. Nid mater o'r hyn sy'n well gan bobl yn unig yw'r opsiwn i ddefnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo'n fwy cyfforddus yn mynegi eu hunain yn y Gymraeg, yn teimlo'n fwy hyderus yn cyfathrebu eu hanghenion yn y Gymraeg, a’u bod yn meddwl ac yn byw eu bywydau yn y Gymraeg.

Mae teimlo eich bod yn gallu mynegi'ch hun a theimlo'n gyfforddus a hyderus wrth gyfathrebu'n hollbwysig i fynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol ac mae hyn yn gwbl hanfodol wrth gael diagnosis.

Mae ein cynllun yn amlinellu ein hymrwymiadau i'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg. Mae'n ymgorffori ymrwymiad yr RNIB i fod yn uchelgeisiol a chanolbwyntio ar y cwsmer ac, yn bwysicach na dim, i fod ar gael ar gyfer mwy o bobl ddall ac â golwg rhannol

Rydym wedi gweithio gyda Comisiynydd y Gymraeg i

ddatblygu darpariaeth Gymraeg ein sefydliad.

Dyma ein Cynnig Cymraeg:

  • Rydym yn cynnig trawsgrifiad personol Cymraeg mewn fformatau hygyrch
  • Rydym yn darparu lleisiau testun-i-leferydd Cymraeg a chyngor technoleg gynorthwyol Cymraeg i unigolion sydd â cholled golwg
  • Gall ein cwsmeriaid gysylltu â siaradwyr Cymraeg eraill â cholled golwg drwy Grŵp ‘Rusty Welsh’ Cyswllt Cymunedol RNIB.
  • Mae gwasanaeth Cymraeg ar gael gan ein Tîm Cyngor Colled Golwg
  • Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg
  • Rydym yn defnyddio’r Gymraeg ar ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol
  • Mae cyhoeddiadau a llyfrynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg
  • Staff a gwirfoddolwyr yn cael cyfle i loywi eu Cymraeg trwy fynychu cyrsiau ar-lein a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.