Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Grŵp golwg trawsbleidiol

Mae’r Grŵp Golwg Trawsbleidiol yn dwyn ynghyd Aelodau Cynulliad, sefydliadau sy’n ymwneud â iechyd y llygaid a cholled golwg, a phobl ddall ac â golwg rhannol.

Mae’r grŵp yn darparu’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar yr aelodau i weithredu fel hyrwyddwyr colled golwg gan godi ymwybyddiaeth ar draws y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y problemau mae pobl sydd â cholled golwg yn eu hwynebu.

Gellir gweld manylion aelodaeth y grŵp, y cofnodion, adroddiadau blynyddol a datganiadau ariannol ar gyfer y grŵp ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 2082 8500.