Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Gwirfoddolwyr sy’n ddall neu â golwg rhannol yn gosod eu stamp ar apêl codi arian

Daeth grŵp o grefftwyr sy’n ddall neu â golwg rhannol at ei gilydd ddydd Iau i greu collage Nadolig enfawr - i gyd wedi ei wneud o stampiau.

Bu’r wyth gwirfoddolwr yn ail-greu golygfa oedd ar un o stampiau dosbarth cyntaf Nadolig y llynedd gan ddefnyddio mwy na 2,000 o stampiau o wahanol liwiau o sawl rhan o’r byd. Dyluniwyd y gwaith celf gan Sian Healey, crefftwraig sydd â golwg rhannol ac a gydlynodd y gwirfoddolwyr ddiwrnod y gwaith.  

Roedd y stampiau a ddefnyddiwyd yn y prosiect yn rhan o rodd gan y teulu Rowcliffe o Bencader, a gyfrannodd fwy na hanner miliwn o stampiau i Apêl Stampiau’r RNIB yn gynharach eleni.   

Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o’n Hapêl Stampiau yn y cyfnod yn arwain at gyfnod y Nadolig. Mae’r Apêl Stampiau yn ffordd rwydd a hwyliog o godi arian hanfodol ar gyfer yr RNIB heb wario ceiniog.   

Dywedodd Sian Healey: "Roedd yr Apêl Stampiau yn llwyddiant mawr ac rydym werth ein bodd gyda’r canlyniad. Cymerodd chwe awr i roi’r cyfan wrth ei gilydd ond cafodd pawb amser gwych. Roedd gwirfoddolwyr sy’n gweld wrth law i helpu’r rhai byrrach eu golwg i gymryd rhan, ac roedd yna ysbryd hyfryd o gydweithredu trwy gydol y dydd.   

“Mae gwaith crefft yn ffordd wych o fynd allan yma ac acw, cwrdd â phobl newydd a chael hwyl. Mae’n dangos sut y gall pobl o bob lefel gallu ddod at ei gilydd i greu celf.   

“Mae’r Apêl Stampiau yn ffordd anhygoel o hwyliog i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer RNIB Cymru, sy'n helpu i wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl ddall neu’n gweld yn rhannol ledled Cymru. Hoffem annog cymaint ag sy’n bosib o bobl i arbed eu stampiau y Nadolig hwn a’u cyflwyno i achos teilwng. Mae pob stamp yn cyfri!”