Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Digon o ddeunydd darllen! Rydyn ni’n lansio ein llyfrgell ar-lein newydd

Chwilio am rywbeth i’w wneud yn ystod y cyfyngiadau symud? Peidiwch â phoeni!

Mae gan ein platfform newydd fwy na 26,000 o deitlau eisoes, sy’n golygu mai dyma lyfrgell ar-lein fwyaf y DU o Lyfrau Llafar.

Mae ein gwasanaeth Llyfrgell yn anfon hyd at 10,000 o lyfrau y dydd a benthycodd fwy nag 1.5 miliwn o deitlau y llynedd ar CD, USB a lawrlwythiadau digidol. Mae’r nifer yma’n parhau i dyfu’n gyson, gyda’r teitlau newydd diweddaraf yn cynnwys The Mirror and the Light gan Hilary Mantel, Queenie gan Kimberley Chambers a Westwind gan Ian Rankin.  

Hefyd mae gan y gwasanaeth sawl testun Cymraeg ar gyfer defnyddwyr ledled Cymru, gan gynnwys teitlau gan Geraint Evans, Joanna Davies a Dewi Prysor.

Mae Stephen Lawrence, 62 oed o Talbot Green, wedi cofrestru’n ddall ers 2014 ac mae’n teimlo bod Llyfrau Llafar yr RNIB yn gwbl hanfodol yn ystod y cyfyngiadau symud.  

Dywedodd Stephen: “Fe glywais i am y Llyfrau Llafar i ddechrau ryw ddwy flynedd yn ôl ac maen nhw wedi newid fy mywyd i. Roeddwn i’n ddarllenydd eithaf brwd cyn i mi golli fy ngolwg. Fe fyddwn i’n darllen unrhyw beth o ffuglen i lawlyfrau technegol a oedd o help i mi gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer fy ngwaith fel trydanwr. Roedd mor rhwystredig pan nad oeddwn i’n gallu darllen mwyach. Roeddwn i’n teimlo bod rhywbeth wedi cael ei gymryd oddi arnaf i.

“Ond nawr rydw i’n gallu mwynhau llyfrau eto ac mae wedi agor byd mawr newydd i mi. Rydw i’n cael rhestr o lyfrau newydd bob mis ac rydw i’n gallu eu lawrlwytho neu maen nhw’n cael eu postio i fy nhŷ i. Mae gan y Llyfrgell ddewis da o lyfrau a dydw i byth yn cael anhawster dod o hyd i rywbeth y mae gen i ddiddordeb ynddo. 

“Mae’r Llyfrau Llafar yn hynod ddefnyddiol i mi nawr bod y byd wedi dod i stop. Rydw i’n brysur iawn fel arfer ac yn gwirfoddoli i RNIB Cymru, Macmillan a Chyngor Cymru, ond nawr rydyn ni i gyd yn aros gartref ac rydw i wedi gweld bod gen i amser i fwynhau llyfr da a bod hynny’n helpu i fy nghadw i’n gall! Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n byw gyda cholled golwg i roi cynnig ar y llyfrau.”

Yn ogystal â Llyfrau Llafar, mae Llyfrgell Ar-lein yr RNIB yn cynnig nifer cynyddol o lyfrau mewn eBraille, sy’n golygu bod pobl yn gallu lawrlwytho teitlau a’u darllen ar sgrin braille electronig, fel Orbit Reader 20.