Shop RNIB Cyfrannwch nawr

“Mae clinigau’n ddiogel – peidiwch â pheryglu eich golwg yn ystod y cyfyngiadau symud”

Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl ledled Cymru’n teimlo’n bryderus am ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Ond ni ddylai pobl orfod peryglu colli eu golwg yn ddiangen yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae damweiniau’n digwydd o hyd a dylid trin cyflyrau acíwt fel argyfwng.

Mae Dr Inderpal Singh, 46 oed, yn feddyg ymgynghorol sy’n gweithio yn Ystrad Mynach. Ddydd Mawrth, Mai 19eg, fe gafodd brofiad o’i olwg yn dirywio’n gyflym iawn tra oedd yn y gwaith.

“Yn sydyn iawn roedd fy llygaid i’n teimlo fel bod graean ynddyn nhw, ac wedyn fe ddaeth poen, cochni ac roeddwn i’n cael anhawster gweld, ac fe wnaeth hynny waethygu yn ystod y pedair awr ddilynol,” meddai Inderpal.

“Erbyn i mi gyrraedd gartref, doeddwn i ddim yn gallu gweld yn glir a doedd dim byd wedi gwella, ac roeddwn i’n bryderus iawn erbyn hynny. Fe wnes i gysylltu â ffrind sy’n offthalmolegydd ac fe ddywedodd wrtha’ i am fynd i’r clinig llygaid brys ar unwaith.”

Aeth Inderpal i glinig llygaid Ysbyty Prifysgol Cymru ar ei union y noson honno a chafodd ddiagnosis o wfeitis acíwt.

“Fe gollais i fwy a mwy o olwg yn gyflym iawn ac roedd yn ddifrifol – doeddwn i prin yn gweld unrhyw beth yn fy llygaid dde,” meddai wedyn. “Fe gefais i fy ngweld yn syth a chefais ddafnau steroid cryf i’w rhoi yn fy llygaid bob awr a chyngor i ffonio’n ôl os oedd unrhyw broblemau. Roedd rhaid i mi fynd yn ôl y diwrnod canlynol i gynyddu’r dos a chefais fy ngweld ddeuddydd yn ddiweddarach ac eto yr wythnos yma. Ar ôl 10 diwrnod, mae fy ngolwg i’n llawer gwell erbyn hyn, a gobeithio y byddaf yn gwella yn llwyr.”

Ond cafodd Inderpal wybod pe bai wedi aros cyn mynd i’r clinig na fyddai wedi bod mor lwcus efallai.

“Pe baen ni wedi ei adael ddiwrnod yn hirach, fe fyddai niwed na ellid ei ddad-wneud wedi digwydd i fy llygaid i ac fe fyddwn i wedi gallu colli fy ngolwg yn barhaol,” meddai. “’Ddylen ni fyth anwybyddu poen neu newidiadau yn ein llygaid.”

Mae clinigau llygaid ledled Cymru wedi rhoi gwybod am gyfraddau presenoldeb is nag arfer ers dechrau pandemig y coronafeirws, gyda llawer o gleifion yn dweud eu bod yn rhy bryderus am haint i fynd i’r ysbyty. Dywedodd Inderpal ei fod yn teimlo’r un pryderon ond bod y staff wedi gwneud iddo deimlo’n hyderus cyn gynted ag y cerddodd i mewn i’r ysbyty.

“Roedd safon y gofal yn anhygoel. Fe esboniodd y staff eu bod yn rhoi mesurau gofalus ar waith i sgrinio am COVID-19, gan gynnwys cymryd fy nhymheredd, cadw pellter cymdeithasol a gwneud yn siŵr fy mod i’n gwisgo masg. Rydw i’n deall pam fod gan bobl ofn am fynd i glinig, ond mae’n bwysig ymlacio a mynd os oes unrhyw argyfwng. Mae ein golwg ni mor bwysig. Peidiwch â pheryglu ei golli.”

Mae clinigau llygaid a meddygfeydd optometrig ledled Cymru yn parhau ar agor ar gyfer apwyntiadau llygaid acíwt a hanfodol. Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch golwg neu boen yn eich llygaid, ffoniwch eich optometrydd lleol neu eich clinig am asesiad ar unwaith dros y ffôn.

Mewn sawl achos, gall gweithredu’n gyflym achub eich golwg.

Mae rhestr lawn o’r meddygfeydd sydd ar agor ar gael ar wefan Gofal Llygaid Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am gyflwr eich llygaid neu ofal llygaid yn ystod y cyfnod hwn, cofiwch gysylltu â Llinell Gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999 neu [email protected].

Hoffai Inderpal ddiolch i holl aelodau o staff Ystafell 8 Clinig Llygaid Ysbyty’r Brifysgol, gan gynnwys y meddyg ar alwad, Dr Shushrutta Dissanayake, yr ymgynghorydd Mr Sanjiv Banerjee a’r radiograffydd ar ddyletswydd am y gofal llygaid brys a ddarparwyd ganddynt.