Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Adroddiad RNIB Cymru: Cost colled golwg

Mae pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol difrifol. Drwy gynnal arolwg a chyfres o grwpiau ffocws yn ystod ail hanner 2023, darganfyddodd RNIB Cymru i ba raddau mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn cael eu taro’n galetach gan yr argyfwng costau byw na’r boblogaeth gyffredinol.

Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru: 

  • • yn fwy tebygol o brofi cynnydd yng nghostau trafnidiaeth, ynni a bwyd na chyfartaledd y DU oherwydd yr heriau unigryw achosir gan golled golwg megis mwy o ddibyniaeth ar dacsis, mwy o angen am oleuadau a methu â chael gafael ar wybodaeth am ostyngiadau prisiau mewn archfarchnadoedd.
  • • gwynebu costau ychwanegol ond na ellir eu hosgoi oherwydd eu colled golwg, gyda mwy nag un o bob pump yn nodi costau misol ychwanegol o fwy na £200.
  • • yn mynd heb hanfodion.
  • • yn mynd allan yn llai er mwyn arbed arian ac yn profi unigedd, unigrwydd a theimladau o iselder.

Gweithiodd RNIB Cymru yn agos gydag ymgyrchwyr i ddatblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ac yn galw am gymorth wedi’i dargedu’n well i bobl gyda cholled golwg ac yn gofyn am ymgyrch gyfathrebu hygyrch sy’n cynyddu ymwybyddiaeth pobl ddall ac â golwg rhannol o’r cymorth mae ganddynt hawl iddo.

Darllenwch yr adroddiad yma: